Gweithdai Rhad Ac Am Ddim i Amddiffyn Pobl Ifanc Rhag Niwed Gamblo
Mae gamblo yn dod yn rhan o fywyd bob dydd i bobl ifanc – trwy hapchwarae, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, a hyd yn oed arferion teuluol. Mae ein gweithdai rhad ac am ddim wedi’u cynllunio i addysgu, hysbysu a diogelu’r genhedlaeth nesaf, tra’n cefnogi’r oedolion sy’n gweithio gyda nhw.
Pam Dewis Ein Gweithdai Wedi'u Arbenigol?
Rhad Ac Am Ddim
Rhad ac am ddim i ysgolion, mudiadau ieuenctid, a grwpiau cymunedol ledled Cymru a'r de-orllewin.
Wedi'u Teilwra i’r Gynulleidfa
Wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion unigryw pob cynulleidfa - boed yn bobl ifanc, rhieni, neu weithwyr proffesiynol - gan sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol, yn ddiddorol ac yn effeithiol i bawb sy'n cymryd rhan.
Pwy Rydyn Ni'n Eu Cefnogi
Pobl Ifanc (11-24 mlwydd oed)
Rydym ni’n rhoi'r hyder a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar bobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus, cadw rheolaeth, a gofalu am eraill.
Rhieni a Gofalwyr
Rydym ni’n cefnogi rhieni a gofalwyr i gydnabod y risgiau y gall pobl ifanc eu hwynebu, dechrau sgyrsiau pwysig, a sicrhau eu diogelwch.
Gweithwyr Proffesiynol
Rydym ni’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i'w helpu i nodi risgiau, ymgysylltu â phobl ifanc yn effeithiol, a darparu'r cymorth angenrheidiol i'w cadw'n ddiogel.
Mae dod â gweithdy i'ch ysgol neu fudiad yn syml
1. Trefnwch Weithdy RHAD AC AM DDIM
Llenwch ein ffurflen gyflym i wneud cais am sesiwn.
2. Rydym Ni’n Cyflwyno Gweithdy
Gallwn drefnu cyflwyno’r gweithdy wyneb yn wyneb neu ar-lein yn dibynnu ar eich anghenion a’ch gofynion.
3. Cadw’r Sgwrs i Fynd
Gallwch barhau i ddysgu gyda mynediad rhad ac am ddim i’n porth dysgu ar-lein, sy’n llawn adnoddau i bobl ifanc ac oedolion.
Barod i drefnu gweithdy rhad ac am ddim?
Ewch ati i amddiffyn y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw. Rhowch y wybodaeth maen nhw ei hangen i gadw’n ddiogel a gwneud dewisiadau gwybodus.